Canolfan y Delyn Deires
Agorwyd Canolfan Genedlaethol y Delyn Deires yn hen gapel bach Ystradgwyn ym mis Medi 2024. Mae'r adeilad nepell o gartref y perchennog, y delynores Rhiain Bebb, yn Nhal-y-Llyn (rhwng Dolgellau a Machynlleth).
Y bwriad wrth sefydlu'r Ganolfan oedd codi ymwybyddiaeth o'r delyn werin Gymreig. Ceir byrddau gwybodaeth yn adrodd hanes yr offeryn yn ogystal â lluniau yn atgof o delynorion hanesyddol. Mae'n bosib trefnu ymweliadau i grwpiau sy'n cynnwys sgyrsiau difyr am hynodrwydd y delyn, ac i glywed datganiadau byw o gerddoriaeth telyn traddodiadol Cymreig.
Hefyd, mae croeso cynnes i gymryd rhan mewn sesiynau 'Dwylo ar y Deires', sef cyfle i ddarpar delynorion gael blas o chwarae'r offeryn, neu gellir archebu dosbarth un i un.
Gweler y Digwyddiadur am fwy o wybodaeth.
*Cofiwch ei bod yn bwysig i wirio'r dyddiadau cyn teithio*
The National Centre for the Welsh Triple Harp was opened in the small chapel of Ystradgwyn in September 2024. The building is located not far from the home of its owner, the harpist Rhiain Bebb, in Tal-y-Llyn (between Dolgellau and Machynlleth).
The purpose of founding the Centre was to raise the profile of the unique Welsh harp. There are informative boards which explain the history of the triple harp, as well as pictures of famous triple harpers past and present. It is possible to arrange group visits to include informal lectures highlighting the distinctiveness of the harp, as well as an opportunity to hear live performances of Welsh traditional music being played on this unique instrument.
Also you are welcome to take part in a 'Hands on the Triple Harp' session which offers a chance for budding harpists to get a taste of playing the instrument, or to have personal tuition too.
Check out the Digwyddiadur (What's On) page for more information and dates of events.
Digwyddiad preifat = Private event
Dwylo ar y Delyn = Hands on the Triple Harp (Booking essential)
*It is important to check the dates before travelling*
I ddysgu mwy am hanes y delyn deires, gweler gwefan Cymdeithas y Delyn Deires. [yn agor mewn ffenestr newydd]
To learn more about the triple harp, visit the Welsh Triple Harp Society's website. [opens in new window]